Gwobr Dewi-Prys Thomas 2025
Cafodd enillwyr Gwobr Dewi-Prys Thomas 2025 ei gyhoeddi yn Seremoni Gwobrau Bensaernïol yr RSAW yng nghanolfan Cornerstone, Caerdydd ar 22 Mai 2025. Derbyniwyd un ar ddeg enwebiad o bob cornel o Gymru, i gynnwys tai preifat, trosi ac addasu adeiladau hanesyddol, prosiectau cynllunio trefol, mentrau adfywio, a gosodiadau celf cyhoeddus.
Enillydd:
Manalo & White am Nyth, addasiad creadigol o gyneglwys Fictoriaidd restredig, gradd II, i alluogi defnydd gymunedol gynaliadwy, a chyfrannu gyda cwmni’r Frân Wen at ddatblygiad celf a diwylliant yng Nghymru
Gwobr: Medal efydd a tystysgrif gwobrwyo
Rhestr fer:
Newport Active Travel Bridge, Casnewydd
Grimshaw
Severn View Park Care Home, Porthsgiwed
Pentan Architects
Trefnwyd gan Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas gyda Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru
Beirniaid:
Y Beirniaid ar gyfer Gwobr Dewi-Prys Thomas 2025 oedd:
Jo Breckon, ymgynghorydd celf cyhoeddus a cyd-gyfarwyddwraig o Studio Reponse, cyn enillydd o Gwobr Dewi-Prys Thomas yn 2023
Priit Jürimäe: Pensaer, athro allanol yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru ac aelod o banel Comisiwn Dylunio Cymru
Athro emeritws Nancy Edward: cyn Gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Jonathan Vining: Pensaer, dylunydd trefol, comisiynydd ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ymddiriedolwyr o Ymddiriedolaeth Dewi- Prys Thomas
Rhys Llwyd Davies (cadeirydd), Pensaer ac Ysgrifenydd Anrhydeddus Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas



Clod ffotograffau/lluniau:
Seremoni gwobrwyo: Eyes Open Media
Nyth: Kristina Banholzer