Gwobr Dewi-Prys Thomas 2026

Cafodd enillwyr Gwobr Dewi-Prys Thomas 2026 ei gyhoeddi yn Seremoni Gwobrau Bensaernïol yr RSAW yng nghanolfan Cornerstone, Caerdydd ar 22 Mai 2026.  Derbyniwyd wyth enwebiad eleni, i gynnwys nifer o brosiectau bychain, gwaith adnewyddu i gyn-ysgol yn Talgarth i fod yn ganolfan gymunedol ac addysgiadol, Canolfan Lles yng Nghwm Taf Bargoed, gwelliannau i rannau o theatr yn y Rhondda, a gosodiad celf integredig yn Uned Dydd Triniaeth Canser Bronglais. 

Enillydd:

Haworth Tomkins am Theatr Clwyd –  gan drawsffurfio theatr restredig, gradd II, o’r 1970au, yn gyrchfan sifil fywiog, hygyrch a chynaliadwy sy’n clodfori perthynas yr adeilad i’r tirlun, gan gyfrannu at ddatblygiad celf a diwylliant yng Nghymru
Gwobr: Medal efydd a tystysgrif gwobrwyo 

Trefnwyd gan Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas gyda Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru

Beirniaid:

Y Beirniaid ar gyfer Gwobr Dewi-Prys Thomas 2025 oedd:

Yr athro emeritws Phillip Jones: cyn bennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru
Yr athro Marc Rees: Artist rhyngddisgyblaethol aml-gyfrwng
Elin Wyn: cadeirydd Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas
Jonathan Vining (cadeirydd): pensaer, dylunydd trefol, comisiynydd ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ymddiriedolwyr o Ymddiriedolaeth Dewi- Prys Thomas