Bywgraffiad
Mae Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn dathlu dyn a gafodd ddylanwad dwys ar bensaernïaeth a dylunio trefol yng Nghymru.
Cafodd ddylanwad uniongyrchol trwy ei waith, ond efallai yn bwysicach cafodd ddylanwad anuniongyrchol fel dyluniwr, darlithydd a beirniad oedd wedi ei ymroddi i ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Fo oedd yr ‘Athro’ Pensaernïaeth cyntaf yn hanes Prifysgol Cymru ac, yn ei amser fel Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, fe sefydlodd hefyd yr adran Dylunio Trefol.
Ganwyd Dewi-Prys Thomas yn Lerpwl yn 1916, i deulu Cymraeg i’r carn. Bu iddo dreulio ei flynyddoedd cynnar mewn dinas llawn adeiladau gwych ond yn yr amser yma treuliodd ei amser yn llwyr o fewn milltir i’w gartref. Er mai yma oedd ei fodolaeth corfforol, roedd ei gartref ysbrydol yn bell o Gilgwri, ac yn ôl yn nhir mynyddog ei gyndadau. Bod yn arlunydd oedd ei freuddwyd gwreiddiol ond pan fu i’r Athro Lionel Budden sylwi ar ei allu gyda bwrdd dylunio, rhoddwyd bwysau arno i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Graddiodd oddi yno yn 1939 gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn dilyn cyfnod hynod ddisglair. Yna aeth yn ei flaen i astudio dylunio trefol gyda William Holford.
Am saith mlynedd yn dilyn hynny, bu’n gweithio i benseiri yng Nghaerdydd, gan gynnwys T Alwyn Lloyd, lle bu iddo gyfrannu at ffurfio Cynllun Amlinellol De Cymru Alwyn Lloyd a Herbert Jackson. Yna, yn 1947, cafodd ei wahodd yn ôl i Ysgol Bensaernïaeth Lerpwl i ymuno a’r staff, a dod yn uwch-ddarlithydd. Arhosodd yn Lerpwl hyd nes 1960, pan gafodd ei apwyntio’n Bennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru, y swyddogaeth iddo gadw tan ei ymddeoliad yn 1981.
Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, sefydlodd hefyd bractis Pensaernïaeth. Enillodd nifer o gomisiynau i ddylunio adeiladau newydd oedd yn nodedig am eu ffresni, manyldeb gofalus ac ymarferol, ac a oedd pob tro wedi eu rhwymo i’w hamser a safle. Mae nifer o’i waith pensaernïol ysbrydoledig, ond eto ymarferol, yn parhau heddiw. Cafodd un enghraifft ym maestref Lerpwl ei enwi’n ‘House of the Year’ yn 1960 gan y Women’s Journal, a chael ei ddisgrifio gan Quentin Hughes fel ‘...a gem of a house, lovingly detailed’. Er y llwyddiant yma, arweiniodd ei ymrwymiad i ddyletswyddau academaidd at roi ei yrfa disglair i un ochr, gan ganolbwyntio yn hytrach ar gynhyrchu penseiri ar gyfer Cymru’r dyfodol. Ar un llaw, gan feddwl am beth a allai fod wedi ei gyflawni, mae pensaernïaeth Cymru ar ei cholled. Serch hynny, yn dilyn ei ymddeoliad, ac er gwaethaf dirywiad yn ei iechyd, fe arddangosodd Dewi-Prys Thomas ei ddewiniaeth unwaith eto gan ddylunio ‘Y Pencadlys’ ar gyfer Cyngor Gwynedd yn Caernarfon. Mae ansawdd oesol yr adeilad yma, ei ffraethineb a’i ddynoliaeth, yn sefyll mewn clod i’w allu creadigol.
Fel darlithydd ac athro, roedd dewi-Prys Thomas yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Yn naturiol, roedd yn ddwy-ieithog, gyda meistrolaeth gywrain o’r ddwy iaith. Roedd yn gyfathrebwr bwerus, yn drylwyr yn ei waith ymchwil, yn graff a dylanwadol mewn dadl, ac yn gyflwynwr dramatig ar y naw. Er hynny, roedd pob amser yn amyneddgar tra’n gwrando ac annog eraill trwy dynnu allan y gorau o beth oedd yn cael ei gyflwyno iddo gan ddatgelu beth oedd yn aml yn ddiymwybod i’ berchennog y gwaith tan y foment honno!
Roedd ei ysgolheictod yn cael ei werthfawrogi gan gynulleidfa eang gan ei fod yn groesgadwr amgylcheddol, ac yn ymddangos yn rheolaidd i gynrychioli cyrff fel Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Enillodd hefyd barch enfawr fel Comisiynwr ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac aelod o Orsedd y Beirdd.
Roedd Dewi-Prys Thomas yn ddyn gyda gweledigaeth, ac fe gafodd ei ysbrydoli yn ifanc gan waith y bardd Ellis Wynne. Ysgrifennodd Wynne yn ‘Gweledigaethau’r Bardd Cwsg’ am ei siwrnai i ben mynydd, gyda ‘...ysbienddrych i helpu ‘ngolwg egwan i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr.’ Roedd gan Dewi-Prys Thomas yr un gallu rhyfeddol i ddadansoddi digwyddiadau pell ac o amser gwahanol o fewn cyd-destun cyfoes, gan ddatgelu arwyddocâd materion o bwys a oedd cynt yn ddirgel. Wrth iddo nesáu at ddiwedd ei yrfa (bu iddo farw yn 1985), fe ysgrifennodd am ei astudiaeth ei hun o Gymru, trwy ysbienddrych pensaernïaeth dychmygol, a oedd yn datgelu golwg o Gymru a oedd yn ddisglair yn ei Treftadaeth, eu mynyddoedd, cymoedd, iaith wyrthiol a chwerthin ei plant, yn ddisglair yn etifeddiaeth eu trefi a’i pentrefi.
Ar gyfer cynifer o bobl, mae Dewi-Prys Thomas wedi, ac yn parhau i fod yn gynghorwr ac yn gynddelw.
Englyn
Fe erys yng ngwaed ei Bencadlys
Y dewin-prin, Dewi-Prys.
Arfon Hughes