Dewi-Prys Thomas Logo

Gweithgareddau eraill

Mae Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn cymeradwyo rhagoriaeth mewn pensaernïaeth, dylunio trefol, dylunio dinesig, dylunio tirlun a disgyblaethau creadigol eraill sy’n cyfrannu at safon bywyd, hunaniaeth ac adfywiad Cymru. Mae’n gwneud hyn yn unigol, a thrwy gyd-weithredu gyda sefydliadau eraill.

 

Beth yw pensaernïaeth Gymreig?

I nodi canmlwyddiant geni Dewi-Prys Thomas, fe gynhaliwyd digwyddiad o’r enw Heddiw, Ddoe a ‘Fory am 12:00, dydd Mawrth 2 Awst 2016 ym mhafiliwn Cymdeithasau 1, Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y Fenni. Trafodwyd y cwestiwn: ‘Beth yw Pensaernïaeth Gymreig?’ o flaen cynulleidfa o tua 60 o bobl, o dan arweiniaeth Harri James, gyda chyfraniad gan gynrychiolwyr o Loyn & Co, Rural Office for Architecture, Rhys Llwyd Davies – Architect | Pensaer, ac Efa Lois Thomas, enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod, 2016.

Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru

Er mwyn nodi canmlwyddiant genedigaeth Dewi-Prys Thomas, cyflwynodd yr ymddiriedolwr Jonathan Vining peth o waith archif Dewi nad ydyw wedi eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Touchstone ar gyfer 2016. Gellir lawrlwytho copi o’r erthygl ‘The Professional practitioner’ drwy glicio yma.

Mudiad yr Ugeinfed Ganrif

Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ei blesio yn fawr i weld 'Cedarwood', a oedd wedi ennill gwobr 'Tŷ'r Flwyddyn' gan Women's Journal yn 1960, yn brif erthygl yng Nghylchgrawn Gwanwyn 2014 o 'C20', cylchgrawn Mudiad yr Ugeinfed Ganrif. Er mwyn lawr lwytho copi o'r erthygl (yn Saesneg), cliciwch yma.

www.c20society.org.ukC20 magazine front cover.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

>

 

 

 

Pensaernïaeth yn ennill tir newydd

Cynhaliodd yr ymddiriedolaeth ddadl ar y pwnc Ennill Tir Newydd am 16.00 ar ddydd Iau, 7 Awst 2012, ym Mhafiliwn Pensaernïaeth, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg. Roedd y ddadl yn ystyried hunaniaeth pensaernïaeth Cymru ac yn cael ei gadeirio gan Geraint Talfan Davies, a gyda’r panelwyr canlynol yn cymryd rhan.

Harri James, B3 Architects
Gerallt Nash, Prif Geradur Adeiladau Hanesyddol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Phil Roberts, Prif Weithredwr, Warm Wales
Rhys Llwyd Davies.

The Dewi-Prys Thomas Trust thanks the National Eisteddfod of Wales and the Royal Society of Architects in Wales for their support in holding this event.

Mae Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn ddiolchgar i Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, am eu cymorth yn rhedeg y digwyddiad yma.

Monograff Dewi-Prys Thomas

Mae’r ymddiriedolaeth wrth eu bodd fod Gwasg Prifysgol Cymru wedi comisiynu’r hanesydd pensaernïol amlwg Dr Alan Powers i olygu monograff am waith a bywyd Dewi-Prys Thomas. Bydd y gwaith i’w gyhoeddi yn 2025 fel rhan o’r gyfres ‘Architecture of Wales’ mewn cydweithrediad â Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru.