Dewi-Prys Thomas Logo

Gwobr Dewi-Prys Thomas

Ers cael ei ail-lawnsio yn 2023, mae Gwobr Dewi-Prys Thomas yn adnabod pwysigrwydd dylunio da ar gyfer ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywio Cymru.  Mae’n gwobrwyo rhagoriaeth mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys pensaernïaeth, dylunio tirlun a mannau cyhoeddus, a celf cyhoeddus.

Gall unrhyw brosiect, gwmni, grŵp neu unigolyn gael eu enwebu, neu enwebu nhw eu hunain ar sail eu gwaith.  Yn ogystal, gall unrhyw un enwebu prosiect er mwyn adnabod ei gyfraniad at ddylunio safon uchel. 

Rhaid i adeiladau neu fenter sy’n cael ei enwebu fod yng Nghymru, ac unrhyw waith dylunwyr, artist, gwmni neu unigolyn a enwebir fod a pherthnasedd a chyseiniant i Gymru.

Terfyn amser cyflwyno cais, neu enwebiad
Dydd Gwener, 21 Ebrill 2023, 5:00 yh.

Bydd prosiectau yn cael eu barnu ar sail yr ymateb gorau i safle, cyd-destun, a chyfraniad at synnwyr Lle.

Sut i gyflwyno cais
Does dim ffi am gais na enwebu prosiect neu berson

Rhaid i  bob cais gynnwys:

Gellir cynnwys gwybodaeth bellach i gefnogi’r cais, gan gynnwys darluniau a cynlluniau, celfwaith, ffilmiau, erthyglau cylchgronau, neu tystlythyrau gan gleientiaid, defnyddwyr neu gymunedau.

Rhaid i unrhyw gynllun neu debyg fod yn ddarllenadwy gyda meddalwedd gyfrifiadurol gyffredin megis PDF/Acrobat, Powerpoint, Word, Quicktime, ayyb.  Gofynwn i chi beidio cyflwyno deunyddiau CAD.

Nid yw’r gystadleuaeth hon yn un gyfrinachol, ac mae’n dderbyniol cynnwys enw dylunydd, gwmni neu berson cyfrifol ar y deunydd sy’n cael ei gyflwyno.

Dylid cyflwyno pob cais neu enwebiad i RSAW@riba.org. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r RSAW (029 2022 8987)