Croeso
Cafodd Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas ei sefydlu yn 1990, i ddathlu bywyd Dewi-Prys Thomas (1916-85), athro carismatig a oedd hefyd yn hyrwyddo Cymru a’r amgylchedd adeiladol.
Yr ydym yn hyrwyddo rhagoriaeth mewn pensaernïaeth, dylunio trefol, dylunio dinesig, dylunio tirlun a disgyblaethau creadigol eraill sy’n cyfrannu at safon bywyd, hunaniaeth ac adfywiad Cymru. Yr ydym yn croesawu cyfleoedd i gyd-weithio gyda sefydliadau eraill o’r un feddylfryd i gyflawni hyn.
Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i gefnogi gweithgareddau’r ymddiriedolaeth, ffoniwch ni, neu e-bostio ni drwy adran cysylltu y wefan hon.