Dewi-Prys Thomas Logo

Gwobr Dewi-Prys Thomas

Cliciwch yma a gopi pdf o’r ddogfen Galw am enwebiadau.

Mae Gwobr Dewi-Prys Thomas yn adnabod pwysigrwydd dylunio da ar gyfer ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywio Cymru. Mae’n gwobrwyo rhagoriaeth mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys pensaernïaeth, dylunio tirlun a mannau cyhoeddus, a celf cyhoeddus.

Gall unrhyw brosiect, gwmni, grŵp neu unigolyn gael eu enwebu, neu enwebu nhw eu hunain ar sail eu gwaith. Yn ogystal, gall unrhyw un enwebu prosiect er mwyn adnabod ei gyfraniad at ddylunio safon uchel.

Rhaid i adeiladau neu fenter sy’n cael ei enwebu fod mwy neu lai wedi eu gwireddu, a hynny yng Nghymru.

Meini prawf asesu

Y prosiect buddugol fydd yr un sydd, yn marn y beirniaid, yn ymateb orau i safle, cyd-destun, gan gyfrannu yn positif at y synnwyr o Lle, gan ddod i afael yn gyfrifol gyda heriau amgylcheddol ac cymdeithasol Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Sut i gyflwyno cais

Does dim ffi am gais na enwebu prosiect neu berson

Mae’r Ymddiriedoleath yn gadael i’r ymgeisydd benderfynu pa wybodaeth fydd orau ar gyfer ddarbwyllo’r beirniaid o deilyngdod yr enwebiad. Gall hyn gynnwys darluniau a chynlluniau, ffotograffau, celfwaith, fideo, CD/DVD, llyfrau, erthyglau, testeb cleientiaid neu defnyddwyr. Rhaid i unrhyw gynllun neu debyg fod yn ddarllenadwy gyda meddalwedd gyfrifiadurol gyffredin megis PDF/Acrobat, Powerpoint, Word, Quicktime, ayyb. Gofynwn i chi beidio cyflwyno deunyddiau CAD.

Rhaid i pob cais gynnwys datganiad, o ddim mwyn na 600 gair, i ddisgrifio y prosiect, gan egluro sut mae’r prosiect yn ymateb i’r meini prawf asesu, yn arbennig creu synnwyr o Lle a chynaladwyedd.

Nid yw’r gystadleuaeth yn ddi-enw a gellir enwi dylunydd, grŵp, cwmni, neu bersonau eraill ynghlwm a’r gwaith gael eu cyhoeddi mewn erthyglau mewn cysylltiad a’r wobr. Mae’r ymgeiswyr yn cydnabod fod gan Ymddiriedolaeth Dewi- Prys Thomas hawl i ailgynhyrchu y deunydd sy’n cael ei gyflwyno, yn llawn neu’n rhannol, heb dal hawlfraint (lle darperir enw awdur neu ffotograffydd, byddant yn cael eu cydnabod).

Dylid cyflwyno pob cais neu enwebiad i RSAW@riba.org. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r RSAW (029 2022 8987)

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Seremoni Gwobrau Pensaernïaeth Cymru RSAW yn mis Mai 2024.

TERFYN AMSER cyflwyno cais, neu enwebiad 17:00 ar ddydd Gwener 22 Mawrth 2023