Dewi-Prys Thomas Logo

Gwobr Dewi-Prys Thomas

Mae gwobr deirblwydd Dewi-Prys Thomas yn anrhydedd sy'n cydnabod pwysigrwydd dylunio da ar gyfer ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywiad Cymru. Mae'n gwerthfawrogi rhagoriaeth mewn ystod eang o feysydd:

• Pensaernïaeth
• Dylunio tirlun a mannau cyhoeddus
• Gwelliannau amgylcheddol, prosiectau cynaladwyedd a peirianneg sifil
• Celf gyhoeddus.

Yn y rhain i gyd, gwobrwyir brosiectau a mentrau sy'n dangos y nodweddion canlynol:

• Rhagoriaeth: gan arddangos y safon uchaf o ystyriaeth, dylunio a gweithredu
• Defnyddioldeb: cyflawni eu swyddogaeth yn syml ac effeithlon
• Gwreiddioldeb: darganfod ffyrdd newydd o weithio yn yr amgylchedd adeiladol; ac
• Ysbrydoledig: yn gwneud gwahaniaeth i safon a gwerthfawrogiad dylunio yng Nghymru.

Dathlu dylunio da, a gwerthfawrogiad o ddylunio da, yn yr amgylchedd adeiladol yng Nghymru

Mae'r wobr yma, sydd wedi ei disgrifio gan Patrick Hannay, golygydd 'Touchstone: cylchgrawn pensaernïaeth yng Nghymru', fel 'gwobr bensaernïaeth mwyaf pwysig Cymru' (cyfieithwyd), yn dathlu bywyd Dewi-Prys Thomas, athro ysbrydoledig a oedd yn hyrwyddo Cymru, a'r amgylchedd Gymreig. Roedd gan Dewi-Prys Thomas, a fu farw yn 1985, gyswllt nerthol at ei wlad a'r amgylchedd Gymreig ac mae'r wobr yn ceisio adlewyrchu'r ysbryd angerddol ac ysbrydoledig hwn.