Dewi-Prys Thomas Logo

2015

Cafodd pumed Gwobr Dewi-Prys Thomas ei chyflwyno yn 2015.  Derbynwyd bedwardeg un o enwebiadau gyda'r canlyniadiau canlynol yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar 27 Tachwedd 2015:Judging panel standing by the submitted works

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wise Building set into the hills

Enillydd:
Chris Loyn
am dri ty yn ne Cymru fel corff o waith o’i stiwdio, sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf arwyddocaol i ymarfer pensaernïaeth Gymreig dros y tair blynedd ddiwethaf, dylanwad adeiladau Chris, ei adfocatiaeth parhaus dros bensaernïaeth fodern a’i ymrwymiad i feithrin penseiri ifanc.
www.loyn.co.uk
Gwobr: medal arian a thystysgrif

 

 

 

 

 

 

Wise Building set into the hills

 

 

 

 

 

 

 

 


Wise Building set into the hills

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sue Essex portraitCanmoliaeth:
Hall + Bednarczyk Architects
am ganolfan ymwelwyr Llandegfedd a’r ganolfan chwaraeon dŵr
www.hallbednarczyk.com
Gwobr: tystysgrif.

 

 

 

 

 

 


Sue Essex portrait

Harold Carter
am ei gyfraniad aruthrol i ddealltwriaeth daearyddiaeth trefol a diwylliannol Cymru
Gwobr: tystysgrif.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sue Essex portrait

National Theatre Wales
am ei gyfraniad llawn dychymyg i ddehongliad o dirwedd Cymru a’i hadeiladau trwy gyfrwng theatr
www.nationaltheatrewales.org
Gwobr: tystysgrif.

 

 

Rhestr fer:
Adfywiad canol tref Blaenau Ffestiniog
Miller Research, MacGregor Smith and Howard Bowcott

Capel Galilee, Eglwys Llanilltud, Llanilltud Fawr
Architect: Davies Sutton Architects

Campws Cymunedol Coleg a’r Fro, Caerdydd
Architect: BDP Architects

Trefnwyd gan Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas gyda chefnogaeth bwyty Manorhouse gyda chymorth Canolfan Grefftau Rhuthun.

Lawr lwythwch lyfryn Gwobr Dewi-Prys Thomas, sy'n cynnwys adroddiad y beirniaid, yma.


Beirniaid:
Y Beirniaid ar gyfer Gwobr Dewi-Prys Thomas 2015 oedd:
Menna Richards
Simon Fenoulhet, Arlunydd
Rhys Llwyd Davies, Ymddiriedolwr, Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas
Professor Rhiannon Evans, Ymddiriedolwr, Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas.

Cynhaliwyd prif ddiwrnod beirniadu’r wobr ar 23 Medi 2015, drwy garedigrwydd Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, yn The Creative Quarter, Arcêd Morgan, Caerdydd.


Datganiad i’r wasg 1

Er mwyn lawr lwytho’r Datganiad i’r wasg, sy’n cynnwys gwybodaeth bellach am wobr 2015 a’r rhestr fer, cliciwch yma.

Cerdyn Post

Er mwyn lawr-lwytho y cerdyn post, yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Dewi-Prys Thomas 2015, sydd ar gael mewn nifer o ganolfannau diwylliannol trwy Gymru, cliciwch yma.

Galw am enwebiadau

Er mwyn lawr-lwytho y galwad am enwebiadau ar gyfer Gwobr Dewi-Prys Thomas 2015, cliciwch yma.

Lansio Gwobr

Cafodd gwobr Dewi-Prys Thomas 2015 ei lansio gan Rhys Llwyd Davies a’r Athro C Malcolm Parry mewn digwyddiad yn y Lle Celf, yn Eisteddfod Genedlaethol, Maldwyn a'r Gororau am 16.00, dydd Llun 3 Awst 3015.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i bawb wnaeth fynychu, ac yn diolch i’r Eisteddfod Genedlaethol, Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, a Chomisiwn Dylunio Cymru am ein caniatâu drwy garedigrwydd i ganiatâu’r digwyddiad.

 

Clod ffotograffau/lluniau:
Seremoni gwobrwyo: Rhys Llwyd Davies
Stormy Castle, Llanmadog: Charles Hosea
Millbrook House, Llys-faen, Caerdydd: Ståle Eriksen
Westra Nook, Dinas Powys: Charles Hosea
Canolfan ymwelwyr Llandegfedd: Jonathan Vining
The Towns of Wales, siaced lwch: Gwasg Prifysgol Cymru
Coriolan/us, Hangar 858, MoD Sain Athan, Bro Morganwg: Jonathan Vining
Diwrnod beirniadu: Jonathan Vining